Donate now

Rhwydwaith RNLI Cymru network: Meet Eleri and Meic / Dewch i gwrdd ag Eleri a Meic

Our newest People Network Rhwydwaith RNLI Cymru has successfully recruited two wonderful co-chairs. Meet Eleri and Meic. / Mae ein Rhwydwaith Pobl diweddaraf, Rhwydwaith RNLI Cymru, wedi llwyddo i recriwtio dau gyd-gadeirydd gwych. Dewch i gwrdd ag Eleri a Meic.

Portraits of Eleri Roberts and Meic Raymant, alonside the RNLI Cymru network logo.

Photo: RNLI

Eleri Roberts and Meic Raymant.

Eleri Roberts 

English

I’m a Senior Communications Manager at Social Care Wales. In my work, I lead a team of content officers that supports the work of our Service Support and Improvement department.

Before joining Social Care Wales I worked as an RNLI Regional Media Officer (now Regional Communications Manager) for nearly 13 years.  During that time, I had the privilege of supporting a fantastic team of Lifeboat Press Officers across Wales, North West of England and the Isle of Man. I’ve also worked with Urdd Gobaith Cymru, Wales’ largest youth organisation, and had the opportunity to lead PR activities during the second half of the charity’s centenary year.

Outside of work, I’m a proud mam of two and play an active role in our local school as the Chair of Governors. I also run a small-holding with my family – life is busy, fun and varied!

Cymraeg (Welsh) is my first language – and the only language that we speak at home. During my time at the RNLI, I worked hard to build awareness, understanding and support towards Cymraeg and our culture here in Wales. That’s why I was so excited when I saw the opportunity to join and support the work of RNLI Cymru.

To be a true One Crew it’s important that we recognise and celebrate our cultural and language differences. I’m looking forward working with Meic as Co-Chairs of RNLI Cymru!

Cymraeg (Welsh)

Fy enw i yw Eleri a rwy'n Uwch Reolwr Cyfathrebu yng Ngofal Cymdeithasol Cymru. Yn fy ngwaith, rwy'n arwain tîm o swyddogion cynnwys sy'n cefnogi gwaith yr adran Cymorth a Gwella Gwasanaeth.

Cyn hyn, roeddwn yn gweithio fel Swyddog Cyfryngau Rhanbarthol yr RNLI (nawr yn Rheolwr Cyfathrebu Rhanbarthol) am bron i 13 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw cefais y fraint o gefnogi tîm arbennig o Swyddogion y Wasg Bad Achub (LPOs) yng Nghymru, Gogledd Orllewin Lloegr ac Ynys Manaw.

Rwyf hefyd wedi gweithio gydag Urdd Gobaith Cymru. Yn ystod fy nghyfnod gyda’r Urdd cefais y cyfle i arwain gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus yn ystod ail hanner canmlwyddiant yr elusen – profiad a hanner!

Y tu allan i'r gwaith, rwy'n fam i ddau o blant ac yn chwarae rhan weithredol yn ein hysgol fel Cadeirydd y Llywodraethwyr. Rwyf hefyd yn ffarmio gyda fy nheulu - mae bywyd yn brysur, yn hwyl ac yn amrywiol!

Cymraeg yw fy iaith gyntaf, ac unig iaith yr aelwyd.  Yn ystod fy nghyfnod yn yr RNLI, gweithiais yn galed i godi ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a chefnogaeth ar draws yr elusen tuag at y Gymraeg a'n diwylliant yma yng Nghymru. Dyna pam roeddwn mor gyffrous pan welais i’r cyfle i ymuno a chefnogi gwaith RNLI Cymru.

I fod yn wir Un Criw mae'n bwysig ein bod ni’n cydnabod ac yn dathlu ein gwahaniaethau diwylliannol ac ieithyddol. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Meic fel Cyd-gadeiryddion RNLI Cymru!

Meic Raymant 

English

Meic Raymant ydw i  / I'm Meic Raymant. I live in Morfa Nefyn on the Llŷn Peninsula. I volunteer with the RNLI as a Head Launcher at Porthdinllaen Lifeboat Station. Welsh is the predominant language in our community and most of the crew at Porthdinllaen Lifeboat Station are Welsh speakers, while others are learning. All my working life has been spent promoting Welsh language.

I was Welsh language Advisor and Head of Welsh language at North Wales Police for 22 years, responsible for the delivery of the Welsh language Strategy and managing the Welsh language training provision and Translation Unit. The work also included developing initiatives to support staff who were learning Welsh or who wanted to improve their skills and the confidence to use them. Prior to this I worked as Head Tutor and Tutor Manager at Nant Gwrtheyrn Language Centre with responsibility for teaching courses at all levels and managing the language programmes. I started my career as a Welsh Language Teacher in a comprehensive school in south-west Wales. I have a degree in Welsh and an MA in Welsh Language Policy and Planning. I have been a member of Welsh Government Welsh language working groups and I have experience of chairing All Wales Language groups and internal language promotion working groups as well.

I was very pleased to hear that the RNLI had decided to establish a people network to promote support and increase use of the Welsh language. Naturally I was keen to support this and try to assist where I could due to my interest and experience in these matters. I am pleased to be the Co-Chair of the Network and look forward to working with Eleri Roberts and many of you in order to support and help the RNLI on its Welsh Language journey. I hope that the network will be able to support the RNLI in its ongoing work to develop and deliver a Welsh language Strategy and Policy and to improve its Welsh language offer to both the public and staff and volunteers in Wales. Identifying practical ways that we can encourage and support more use of Welsh amongst both staff and volunteers and opportunities to improve Welsh skills, whether basic pronunciation and linguistic courtesy or building confidence to speak more Welsh, will also be important.

The Welsh language belongs to all of us in Wales, whether we speak it or not. We should celebrate it in an inclusive manner. Please let us know what we can do to assist you and please support the Network! Diolch!

Cymraeg (Welsh)

Meic Raymant ydw i. Dwi'n byw ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Dw i'n gwirfoddoli gyda'r RNLI fel Prif Lansiwr yng ngorsaf Bad Achub Porthdinllaen. Cymraeg yw prif iaith yn ein cymuned ac mae'r rhan fwyaf o'r criw yng Ngorsaf Bad Achub Porthdinllaen yn siaradwyr Cymraeg, ac mae eraill yn dysgu. Dw i wedi treulio fy holl fywyd gwaith yn hyrwyddo'r Gymraeg. 

Roeddwn i'n Ymgynghorydd yr Iaith Gymraeg ac yn Bennaeth y Gymraeg yn Heddlu Gogledd Cymru am 22 mlynedd, lle roeddwn i'n gyfrifol am gyflwyno’r Strategaeth Iaith Gymraeg a rheoli'r ddarpariaeth hyfforddiant iaith Gymraeg a'r Uned Gyfieithu. Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys datblygu mentrau i gefnogi staff oedd yn dysgu Cymraeg neu a oedd am wella eu sgiliau a magu'r hyder i'w defnyddio. Cyn hyn roeddwn i'n gweithio fel Prif Diwtor a Thiwtor Reolwr yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn lle roeddwn i'n gyfrifol am addysgu cyrsiau ar bobl lefel a rheoli'r rhaglenni iaith. Dechreuais i fy ngyrfa fel Athro Cymraeg mewn ysgol gyfun yn ne-orllewin Cymru. Mae gen i radd yn y Gymraeg a gradd MA mewn Polisi Iaith Gymraeg a Chynllunio Ieithyddol. Dw i wedi bod yn aelod o weithgorau Cymraeg Llywodraeth Cymru ac mae gen i brofiad o gadeirio grwpiau iaith Cymru gyfan, yn ogystal ag arwain gweithgorau hybu iaith mewnol hefyd.

Roeddwn i'n falch iawn o glywed bod yr RNLI wedi penderfynu sefydlu Rhwydwaith Pobl i hyrwyddo, cefnogi a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Roeddwn i'n awyddus i gefnogi hyn a cheisio helpu lle roeddwn i'n gallu oherwydd fy niddordeb a'm profiad yn y maes hwn. Dw i'n falch o fod yn Gyd-gadeirydd y Rhwydwaith a dw i'n edrych ymlaen at weithio gydag Eleri Roberts a llawer ohonoch i gefnogi a helpu'r RNLI ar ei daith iaith Gymraeg. Dw i’n gobeithio y bydd y Rhwydwaith yn gallu cefnogi'r RNLI yn ei waith parhaus i ddatblygu a chyflwyno Strategaeth a Pholisi Iaith Gymraeg ac i wella ei gynnig Cymraeg i'r cyhoedd, staff a gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae'n bwysig ein bod ni'n dod o hyd i ffyrdd ymarferol o annog a chefnogi staff a gwirfoddolwyr i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys hybu sgiliau fel ynganiad sylfaenol a chwrteisi ieithyddol neu fagu hyder i siarad Cymraeg yn rheolaidd. 

Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, p'un a ydyn ni yn ei siarad ai peidio. Mae'n bwysig ein bod ni'n ei dathlu mewn ffordd gynhwysol. Rhowch wybod i ni beth allwn ni ei wneud i'ch cynorthwyo, a chofiwch gefnogi'r Rhwydwaith! Diolch!

Rhwydwaith RNLI Cymru 

English

Rhwydwaith RNLI Cymru aims to inspire collaboration, share knowledge, and champion opportunities that embed Welsh culture at every level of the RNLI. Supporting the delivery of our 2040 Strategy and working towards our ultimate goal to save every one.

We have already commissioned Ateb to provide a clear and honest picture of the RNLI’s current position as a charity operating in Wales, and to support with recommendations and the co-creation and delivery of a Welsh language and culture strategy and policy.

You can join RNLI Cymru by completing this form and or can contact our chairs directly by emailing [email protected]

Cymraeg (Welsh)

Nod y rhwydwaith yw ysbrydoli cydweithio, rhannu gwybodaeth, a hyrwyddo cyfleoedd sy’n gwreiddio diwylliant Cymru ar bob lefel o’r RNLI. Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni ein Strategaeth 2040 ac yn ein helpu i weithio tuag at ein nod eithaf – achub pawb.

Rydym eisoes wedi comisiynu Ateb i ddarparu darlun clir a gonest o sefyllfa bresennol yr RNLI fel elusen sy’n gweithredu yng Nghymru, ac i gefnogi argymhellion ynghyd â chyd-greu a chyflwyno strategaeth a pholisi ar gyfer y Gymraeg a diwylliant Cymru.

Gallwch ymuno ag RNLI Cymru drwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch gysylltu â'n cadeiryddion yn uniongyrchol: [email protected]