The RNLI is the charity that saves lives at sea
Content anchor
Content available in the following languages:
English

Ein Pwrpas

Kilmore Quay crew member Michelle Hinchy at the helm of the Y-boat launched from the Tamar class lifeboat Killarney 16-18 which can be seen in the background with search lights on.

Yr RNLI yw’r elusen sy’n achub bywydau ar y môr.

Rydym yn darparu, ar alwad, wasanaeth canfod ac achub pedair awr ar hugain trwy gyfrwng badau achub ynghyd â gwasanaeth achubwyr bywyd tymhorol ar draethau. Mae ein Gwerthoedd yn adlewyrchu’r modd y byddwn yn mynd ati i weithredu fel cyfundrefn.

Pwrpas:

Mae’r RNLI yn achub bywydau ar y môr.

Gweledigaeth:

Dod â marwolaethau ar y môr, y gellid bod wedi’u rhwystro, i ben.

Gwerthoedd:

Seilir ein gwaith ar ein gwerthoedd, a dyna sy’n ei yrru hefyd. Mae ein gwirfoddolwyr a’n staff yn ymgyrraedd at safon ardderchog ac maent yn…

Anhunanol: yn barod i roi anghenion eraill o flaen ein hanghenion ni ac anghenion y tîm o flaen anghenion yr unigolyn; parod i weld y darlun ehangach a gweithredu er lles yr RNLI, ac i fod yn gynhwysol a dangos parch at eraill. Bod yn barod i rannu ein harbenigedd gyda chyfundrefnau sy’n rhannu ein hamcanion.

Dibynadwy: wastad ar gael, wedi ymroi’n llwyr i wneud ein rhan wrth achub bywydau gyda phroffesiynoldeb ac arbenigedd, gan ddatblygu a gwella’n gyson. Gweithio yn y gymuned a throsti a chyflawni ein haddewidion.

Geirwir: cyfrifol, atebol ac effeithiol wrth ddefnyddio rhoddion ariannol a roddwyd i ni gan ein cefnogwyr, rheoli ein busnes gyda thryloywder, gonestrwydd ac yn ddiduedd.

Dewr: parod i gyflawni ein hamcanion mewn amgylchiadau sy’n newid ac sy’n heriol. Rydym yn flaengar, yn hyblyg ac yn benderfynol yn ein cenhadaeth i achub mwy o fywydau ar y môr.

Pethau na fyddwn ni’n eu newid:

Ethos gwirfoddoli:

Darperir ein gwasanaeth achub bywydau ar draethau gan wirfoddolwyr hyd eithaf ein gallu, a’r rheiny’n cael cefnogaeth hael gan roddion gwirfoddol a chymynroddion.

Annibynnol oddi wrth Lywodraeth:

Nid ydym yn ceisio cyllid gan lywodraeth ganolog.

Elusen genedlaethol, leol:

Rydym yn gweithredu trwy gyfrwng timau lleol, sy’n derbyn cyfarwyddyd a chyllid canolog.

Morwrol:

Maes ein harbenigedd eithriadol yw achub bywydau ar y môr ac ar ddŵr drwy geisio atal a thrwy achub.

Treftadaeth:

Rydym yn falch iawn o’n hanes a’n traddodiad ac o lwyddiant yr RNLI wrth achub bywydau dros yn agos at ddwy ganrif.

Cynhwysiad ag amrywiaeth 

Rydym yn ymroddedig i fod yn sefydliad cynhwysol trwy annog amrywiaeth yn ein gweithlu, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. Rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb, yn seiliedig ar allu’r unigolyn a’u potensial i gyfrannu at yr RNLI.

Yr RNLI a’r amgylchedd

Rydym yn anelu at ostwng faint o ynni rydyn ni’n ei ddefnyddio, fydd yn gwella ein hôl troed carbon a gostwng costau – gan wneud i roddion fynd ymhellach.

Mae prosiectau sy’n lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn cynnwys pympiau gwres o’r ddaear mewn gorsafoedd badau achub newydd, tyrbin gwynt sy’n rhoi pŵer i Orsaf Bad Achub Aith, a nifer o fesurau arbed ynni yn ein swyddfeydd.

Ein cynllun tymor-hir yw arafu cynnydd ein hôl troed carbon, cyrraedd stad sefydlog yna cyflawni gostyngiadau flwyddyn wrth flwyddyn wrth barhau i gyrraedd ein hangen am fwy o weithgareddau ymarferol.

Services in 2012

RNLI lifeboats

8,321

launches
average 23 a day

7,912

people rescued
average 22 a day

RNLI lifeguards

14,519

incidents

16,414

people assisted

Since the RNLI was founded in 1824, its lifeboats, and since 2001, its lifeguards, have saved more than 140,000 lives.

More and more people are using beaches and the sea for leisure and RNLI crews and lifeguards are responding to an increased number of incidents.

In 2012, 49% of launches were to leisure craft users, 20% to people ashore, 13% to people in the water, 10% to merchant or fishing vessels and 8% to other sea users.

Out on a shout

Our lifeboat crews launch 24 times a day on average. Find out which station has launched near you around the UK and Republic of Ireland. View shouts.

Shouts